Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
22 Tachwedd 2023
Amser y
cyfarfod: 13.30
------
Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
1 Cwestiynau i Weinidog yr Economi
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2.
2 Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2.
3 Datganiadau 90 Eiliad
(5 munud)
4 Dadl ar ddeiseb P-06-1356: Cyflwyno mesurau diogelwch cynhwysfawr ar gyffordd 'Mynegbost' yr A477
(30 munud)
NDM8408 Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi’r ddeiseb ‘P-06-1356 Cyflwyno mesurau diogelwch cynhwysfawr ar gyffordd 'Mynegbost' yr A477’ a gasglodd 10,310 o lofnodion
5 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Technoleg ddigidol a deallusrwydd artiffisial yn y GIG
(60 munud)
NDM8410 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn dathlu datblygiad a defnydd o dechnolegau arloesol gan wasanaethau iechyd ledled y DU.
2. Yn croesawu'r Uwchgynhadledd Diogelwch Deallusrwydd Artiffisial, yr uwchgynhadledd fyd-eang gyntaf erioed ar ddeallusrwydd artiffisial, a gynhaliwyd ar 1 a 2 Tachwedd 2023.
3. Yn gresynu:
a) nad yw pob meddygfa yn defnyddio ap GIG Cymru;
b) nad yw e-bresgripsiynu wedi'i gyflwyno'n llawn yn GIG Cymru; a
c) bod y seilwaith technolegol sy'n sail i GIG Cymru yn creu rhwystrau i ymarfer clinigol.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud yr hyn a ganlyn:
a) cyflwyno ap y GIG ac e-bresgripsiynu ar frys ar draws GIG Cymru gyfan;
b) cyflymu'r broses o integreiddio technolegau digidol a deallusrwydd artiffisial ar gyfer GIG Cymru; a
c) dechrau ar y broses o gael gwared ar dechnolegau'r GIG sydd wedi dyddio.
Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Dileu popeth ar ôl pwynt 2 a rhoi yn ei le:
Yn nodi pwysigrwydd sicrhau bod gweithio’n digwydd ar draws y DU yn dilyn uwchgynhadledd ddiweddar Llywodraeth y DU ar ddiogelwch deallusrwydd artiffisial (AI), er mwyn sicrhau bod safbwyntiau Cymru yn cael eu hadlewyrchu mewn penderfyniadau a chamau gweithredu yn y dyfodol.
Yn nodi pwysigrwydd datblygiad parhaus gwasanaethau digidol a thechnoleg ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol er mwyn sicrhau gofal o ansawdd uchel.
Yn croesawu:
a) bod dros 200 o bractisau meddygon teulu bellach yn defnyddio Ap GIG Cymru;
b) mai’r pwriad yw ei gyflwyno ym mhob practis erbyn diwedd mis Mawrth 2024;
c) bod gwasanaeth presgripsiynau integredig yn dechrau cael ei gyflwyno ledled y wlad, wedi i’r Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig newydd mewn Gofal Sylfaenol gael ei lansio; a
d) gwaith cydgysylltu’r sector iechyd a gofal cymdeithasol ar dechnolegau newydd a rhai sy'n dod i'r amlwg, megis AI, i helpu i sicrhau eu bod yn cael eu mabwysiadu mewn modd cyfrifol, moesegol, teg a diogel.
6 Dadl Plaid Cymru - Y sector rhentu preifat
(60 munud)
NDM8409 Heledd Fychan (Canol De Cymru)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi:
a) y pwysau costau byw parhaus sy'n wynebu rhentwyr;
b) y cynnydd rhent cyfartalog blynyddol yng Nghymru o 13.9 y cant yn 2021-22;
c) y cynnydd rhent cyfartalog pellach yng Nghymru o 6.5 y cant yn 2022-23, gyda Shelter Cymru yn nodi enghreifftiau o renti'n codi 100 y cant;
d) mai rhenti myfyrwyr yw 60 y cant o becyn cynhaliaeth cyfartalog y DU, gyda 32 y cant o fyfyrwyr sy'n astudio yng Nghymru yn methu â thalu eu rhenti.
2. Yn credu na ddylai unrhyw un yng Nghymru gael ei roi mewn perygl o fod yn ddigartref o ganlyniad i chwyddiant uchel a diffyg stoc tai fforddiadwy.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu ar unwaith i wneud yr hyn a ganlyn yn y sector preifat:
a) rhewi rhenti;
b) cyflwyno mesurau i wahardd troi allan y gaeaf hwn.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi’r pwysau parhaus o ran costau byw y mae pobl sy’n rhentu yn eu hwynebu.
2. Yn croesawu’r ymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu, fel rhan o’r Cytundeb Cydweithio gyda Phlaid Cymru, i gyhoeddi Papur Gwyn yn amlinellu cynigion ynghylch posibilrwydd sefydlu system o renti teg a hefyd ddulliau newydd o sicrhau bod cartrefi’n fforddiadwy i bobl ar incwm isel.
3. Yn croesawu’r camau pendant, uchelgeisiol a radical ar gyfer diwygio yn y dyfodol a amlinellir yn y Papur Gwyn ar Roi Diwedd ar Ddigartrefedd a ddatblygwyd fel rhan o’r Cytundeb Cydweithio gyda Phlaid Cymru.
4. Yn credu na ddylai unrhyw un yng Nghymru wynebu'r posibilrwydd o ddigartrefedd yn sgil budd-daliadau annigonol sy’n gysylltiedig â thai;
5. Yn cydnabod mai’r dull unigol mwyaf ar gyfer mynd i’r afael â phroblemau fforddiadwyedd yn y sector rhentu preifat yw cyfraddau’r Lwfans Tai Lleol, ac yn galw ar Lywodraeth y DU i godi’r cyfraddau er mwyn adlewyrchu gwir gost rhent.
Papur Gwyn ar roi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru
Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol.
Gwelliant 2 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) cymryd camau brys i droi’r miloedd o eiddo gwag yng Nghymru yn gartrefi unwaith eto;
b) ystyried cyfleoedd gyda’r sector i atal landlordiaid rhag gadael y farchnad rentu yng Nghymru;
c) gweithio gyda landlordiaid a deiliaid contractau i atal troi pobl allan dros fisoedd y gaeaf;
d) cyflwyno cynllun gweithredu i adeiladu 12,000 o dai bob blwyddyn; ac
e) gwneud datganiad ar yr adolygiad o Rhentu Doeth Cymru.
7 Cwestiynau Amserol
(20 munud)
Gofyn i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Peter Fox (Mynwy): Pa asesiad y mae’r Gweinidog wedi ei wneud o'r effaith y bydd datganiad yr hydref Llywodraeth y DU yn ei chael ar Gymru?
8 Cyfnod Pleidleisio
9 Dadl Fer
(30 munud)
NDM8406 Samuel Kurtz (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro)
Diogelu anifeiliaid sy'n cael eu cam-drin - rhoi pwerau statudol i'r RSPCA
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mawrth, 28 Tachwedd 2023